Mewn datblygiad â Theatr y Sherman

Mae menyw ddisglair gyda chwant am fywyd yn ymgolli ei hun mewn ailadrodd stori Dr Faustus. Ond wrth iddi geisio dirgelu cyfrinachau’r bydysawd, daw wyneb yn wyneb â chyfrinachau tywyll ei hun.

 “Why this is hell nor am I out of hell?”

Wrth geisio mynd i'r afael â'r testun clasurol hwn, mae cwmni o actorion a cherddorion yn cael eu dal mewn brwydr rhwng da a drwg – fyddan nhw’n dod allan yn fyw? Mae stori Faust yn cael ei hailadrodd mewn ffordd anarchaidd a chwareus, gyda cherddoriaeth fyw, rhyfeddodau gweledol a’r diafol ei hun. Am faint fyddech chi'n gwerthu'ch enaid?

Cadwch lygad allan am fwy o wybodaeth.

 

 
 

 

Ffotograffiaeth gan Kirsten McTernan