Yn ogystal â chynhyrchu theatr, mae Gagglebabble hefyd yn cynnal Dosbarthiadau Meistr a Gweithdai.
Mae’r gweithdai’n canolbwyntio ar ffyrdd Gagglebabble o greu Gwaith a chydweithio.
Rydyn ni'n cynnig y gweithdai canlynol:
Gweithdai yn gysylltiedig â'r sioe benodol rydyn ni’n gweithio arni ar hyn o bryd.
Gweithdy ar rai o elfennau ac arddulliau adrodd straeon sydd yn cael eu defnyddio yn y sioe bresennol, gan ddefnyddio cerddoriaeth, gemau byrfyfyr ac ymarferion grŵp.Byrfyfyrio a dyfeisio
Golwg gyffredinol ar sut i greu syniadau a chymeriadau trwy waith byrfyfyr. Gan ddefnyddio’r gemau ac ymarferion rydyn ni’n eu defnyddio ein hunain mewn ymarferion ac wrth ddatblygiadau sioeau.Crëwch eich Gig-theatr eich hun
Cyfle i archwilio arddull Gig-theatr a chyfle i ysgrifennu’ch caneuon eich hunan.
Gall pob gweithdy gael ei deilwra i weddu grwpiau o wahanol feintiau ac ystodau amser.
Yn y gorffennol, rydym wedi cynnal gweithdai gyda: Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, Coleg y Drindod Caerfyrddin, Canolfan Mileniwm Cymru.
Mae Hannah a Lucy yn hylyswyr gweithdai profiadol iawn ac maen nhw wedi'u gwirio gan y CRB / DBS.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r ffurflen isod: